
Maethegydd Naturiol
Nid yw’n bosib’ codi ty cadarn ar sylfaen gwael. Rhaid i’n sylfaen ni ddod oddi wrth fwydydd iachusol. Rwy’n teimlo’n angerddol am rannu’r lles a gawn o faeth naturiol. Mae fy neges yn syml – bwyta’n iach am byth.
“ Mi es ar ddeiet a cholli’r pwysau cyn ei roi ‘nôl arnodd!”
Ydych chi wedi clywed hynna o’r blaen? Mae mynd ar ddeiet yn perthyn i’r gorffennol. Rwy’n credu’n gryf mewn gwneud newidiadau bach i’n bywydau, cadw atyn nhw a theimlo’n well am byth.
Allai ddim pwysleisio digon am fwyta bwydydd da. Gall bwyd sydd wedi’i brosesu ein gwneud ni deimlo’n afiach a digalon. Mae’n syml, os na fedrwn ynganu’r cynnwys sy’ gefn y pecyn peidiwn â’i fwyta!
Nid yw un maint yn ffitio pawb. Yn dilyn sgwrs bersonnol gyda cleientiaid gallaf roi cyngor holistaidd ar sut i leihau straen ar eu cyrff, gan greu rhaglen fwyd bersonol sy’n gweddu i’r unigolyn.
Mae bwyd yn chwarae rhan bwysig yn ein gwead fel unigolion. Gall bywyd fod yn ddigon o straen heb adael i ddeiet gwael ychwanegu at y llwyth ‘gwenwynig’. Felly, os hoffech wybod mwy am sut gallai yr hyn a fwytewch newid eich bywyd, croeso ichi gysyltu â mi.