
Wedi’i sefydlu’n America gan Paul Chek, mae Hyfforddwyr Ymarferion CHEK yn arbenigwyr ar greu ymarferion i bwrpas penodol ar gyfer unigolion o bob oed a gallu corfforol.
Elfen allweddol o waith Hyfforddwr Ffitrwydd CHEK yw’r gyfres o asesiadau ddefnyddir (gyda chyfarpar addas ac arbenigol) i adnabod trafferthion gyda’r craidd a’r ystym, fel bod cleientiaid yn cael mwy na dim ond rhaglen ‘ffitrwydd’.
Gall Hyfforddwr Ffitrwydd CHEK wneud asesiad manwl a fydd yn arwain at greu rhaglen fiolegol all fod yn llwyddiant mawr i’r unigolyn.
Fel Hyfforddwr Ffitrwydd CHEK rwy’n pwysleisio techneg perffaith a chywir wrth wneud ymarferion. Dyna’r unig ffordd i gael y canlyniadau gorau posib’. Gall ymarferion sy’n cybwyso’r egni leihau straen corfforol a meddyliol. Mae gwybod pryd i ddefnyddio’r math yma o ymarefrion gyda cleientiaid yn angenrheidiol ar gyfer newid bywydau a gwellhad hir dymor.
Pwy yw Paul Chek?
Mae Paul Check yn enwog fel arbenigwr rhyngwladol ym meysydd cywiro a pherfformiad aruchel ymarfer corff cinesioleg. Mae agwedd holistig unigryw Paul tuag at driniaethau ac addysgu wedi newid bywydau llawer o bobl dros y byd i gyd, yn cynnwys llawer o’i gleientiaid ei hun yn ogystal â’i fyfyrwyr a’u cleientiaid hwythau. Gan drin y corff fel un cyfanwaith a mynd i wraidd problemau, mae Paul wedi bod yn llwyddiannus lle mae ffyrdd eraill traddodiadol wedi methu.