Elen Lloyd
Fel Hyfforddwr Iechyd a Lles Holistaidd, dwi'n teimlo angerddol tuag at pob agwedd o fyw yn iach. Be' 'de ni'n roi yn ein corff, ar ein croen, y ffordd 'de ni'n symud, amser i ymlacio, amser i feddwl. Os ydym am wneud ein gorau mewn bywyd, mae'r agweddau hyn yn hanfodol. Byddwch yn iach ~ byddwch yn hapus.
Fy nôd i yw i annog ffyrdd rhatach, mwy gwyrdd a naturiol i gadw’n iach a heini. Rwy’n mynd ‘nôl i’r ffordd sylfaenol o fwyta a chadw’n ffit. Does dim angen deiet ffasiynol nac offer drud.
Rwyf wedi bodi bod yn ymarfer Pilates ers 2008 ac yn ei hyfforddi ers 2010. Gyda’r ffocws ar wella’r ystym, cryfder y craidd a chydbwysed, pwrpas fy nosbarthiadau yw i fod o gymorth i bobl helpu eu hunain er mwyn teimlo’n fwy ystwyth a chyffyrddus yn eu bywyd bob dydd.
​
Ar hyn o bryd mae'r holl sesiynnau Pilates yn cael eu gwneud arlein. Mae sawl dewis ar gael er mwyn i chi ymarfer corff adref yn eich amser eich hun. Rhywbeth ar gyfer pob oedran a gallu.
​
Am fwy o wybodaeth ynglÅ·n â beth yw Hyfforddiant Ymarefrion CHEK, cliciwch yma.
Elen x
Amserlen Dosbarthiadau
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Gwener
Amserlen Dosbarthiadau:
£72 am 12 sesiwn
£7 talu bob tro


Tip Sydyn
Bwyta Iach
Rhowch lemon cyfan yn y rhewgell, yna'i gratio ar ben unrhyw bryd bwyd yr hoffech. Mae'n hyfryd ar ben pysgodyn neu basta er engraifft, ac yn ychwanegu maeth gwych i unrhyw bryd bwyd. Rhowch yn ôl yn y rhwegell a'i ddefnyddio fel y mynwch.